Fe ddaeth oddeutu 1,000 o bobol ynghyd heddiw i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Frycheiniog a Maesyfed heddiw.
Dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn fod y gefnogaeth i’r digwyddiad yn “galonogol iawn” ar gyfer yr Eisteddfod sydd i’w chynnal yno o 28 Mai i 2 Mehefin y flwyddyn nesaf.
Yn ystod y digwyddiad heddiw, gorymdeithiodd y dorf hwyliog, o dan arweiniad cyflwynwyr Cyw ar S4C, o Ysgol Uwchradd Aberhonddu i gae chwarae Watton ger Theatr Brycheiniog.
Ar ôl cyrraedd pen y daith roedd adloniant ar gyfer y teulu cyfan gan gynnwys cerddoriaeth fyw o’r llwyfan a pherfformiadau gan ysgolion lleol, sesiynau chwaraeon ac amrywiaeth o stondinau – i gyd yng nghwmni Mistar Urdd!
Dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn: “Roedd y gefnogaeth a gawsom heddiw yn galonogol iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r plant lleol a’u teuluoedd am ddod i ymuno yn yr hwyl ac am estyn croeso cynnes i Eisteddfod yr Urdd.
“Hoffwn ddiolch hefyd i’r criw arbennig o wirfoddolwyr yn yr ardal am eu brwdfrydedd a’u gwaith caled wrth i ni baratoi at yr ŵyl y flwyddyn nesaf.”