Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth am Kelvin Edmunds, 61 o ardal Cyncoed yng Nghaerdydd, sydd ar goll ers dydd Iau.
Cafodd ei weld ddiwethaf yn ardal Yr Eglwys Newydd am oddeutu 6 o’r gloch fore Iau.
Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn 5’9″, o gorffolaeth ganolig a chanddo wallt gwyn.
Roedd e’n gwisgo jeans a siaced aeaf ddu.
Mae ganddo fe gyswllt ag ardal Aberdâr, ac mae’r heddlu’n credu y gallai fod yn yr ardal honno.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.