Mae rheolwr cartref gofal i blant yn Abertawe wedi ei gyhuddo o fethu â rhoi gofal digonol i’r plant oedd yn ei feddiant.

Bydd Michael Evans yn wynebu gwrandawiad ‘addasrwydd i ymarfer’ gan gorff Gofal Cymdeithasol Cymru yn sgil yr honiadau yn ei erbyn.

Mae wedi’i gyhuddo o “[f]ethu â sicrhau bod y cartref plant yn cael ei redeg mewn ffordd a oedd yn rhoi darpariaeth briodol i’r plant o ran eu lles a’u haddysg.”

Ar ôl i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru gynnal arolygiad i’r cartref dan sylw – sydd ddim cael ei cenwi – fe gafodd y cartref ei gau.

Mae Michael Evans wedi’i wahardd rhag gweithio mewn rôl gofal cofrestredig nes y bydd y gwrandawiad yn dod i ben a bod dyfarniad wedi’i roi.

Y disgwyl yw y bydd yr achos yn para tridiau a bydd yn dechrau yn swyddfa’r Cyngor Gofal yng Nghaerdydd am 9:30 bore dydd Mercher, 11 Hydref 2017.