Mae athrawes a gafodd berthynas rhywiol gyda bachgen ysgol 15 oed wedi cael ei charcharu am 16 mis.

Fe wnaeth Alice McBrearty, 23, gyfaddef i’r ffling pedwar mis gyda disgybl roedd hi’n ei ddysgu mewn ysgol yn nwyrain Llundain.

Clywodd Llys y Goron Snaresbrook ei bod wedi cusanu’r bachgen mewn ystafell ddosbarth, wedi cael rhyw gydag ef mewn gwesty ac wedi cyflawni gweithredoedd rhywiol gydag ef mewn garej wag ac yn ei char.

Roedd hi hefyd wedi mynd â’r llanc i dŷ ei rhieni, lle cafodd y ddau ryw.

Eisoes mewn gwrandawiad blaenorol, roedd yr athrawes wedi pledio’n euog i saith achos o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn tra’i bod mewn swydd gyfrifol.

Mi wnaeth Alice McBrearty grïo a rhoi ei phen yn ei dwylo yn y doc wrth i’r Barnwr Sheelagh Canavan ei dedfrydu i garchar heddiw.

Dywedodd y barnwr fod Alice McBrearty yn “ddynes ifanc alluog a thalentog, oedd yn gallu gwahaniaethu rhwng da a drwg” ond ei bod wedi “chwalu pob ymddiriedaeth”.

Clywodd y llys fod y berthynas wedi dod i ben pan wnaeth tad y bachgen gysylltu â’r heddlu.