Margaret Thatcher (Llun: Sefydliad Margaret Thatcher CCA 3.0)
Mae cyn-Brif Weinidog gwledydd Prydain wedi cael cic allan o gyfrol Gymraeg am arwresau – ac mae anturiaethwraig o Abertawe yn cymryd ei lle.

Fe fydd gwasg Gomer yn cyhoeddi’r addasiad Straeon Nos Da i Bob Rebel o Ferch yr wythnos nesaf (Hydref 11), ond heb y bennod ar Margaret Thatcher a ymddangosodd yn y llyfr Saesneg gwreiddiol.

Cafodd y llyfr gwreiddiol – Goodnight Stories for Rebel Girls: 100 Tales of Extraordinary Women – ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2016 yn yr Unol Daleithiau ac mi roedd hanes Margaret Thatcher ymysg yr hyn oedd yn cael ei ddisgrifio fel “cant stori am fenywod nodedig”.

Ond, yn fersiwn Cymraeg y llyfr mi fydd yr anturwraig Lowri Morgan yn cymryd lle’r gwleidydd Ceidwadol – yn ôl Gomer mi roedd angen rôl model Gymreig.

Pwy yw Lowri Morgan?

Mae Lowri Morgan yn gyflwynydd teledu, cerddor a rhedwraig marathon sydd yn  dod yn wreiddiol o Abertawe.

Mae hi ymysg yr unig chwech o bobol yn y byd sydd wedi llwyddo i gwblhau Marathon yr Arctig – camp o redeg 350 milltir trwy’r oerfel – ac mae hi hefyd wedi cystadlu ym Marathon Jyngl yr Amason.

“O’n i wrth fy modd,” meddai Lowri Morgan wrth siarad am gael ei gofyn i fod yn rhan o’r llyfr. “O’n i eisoes wedi clywed am y llyfr.”

Bydd y llyfr yn cael ei lansio er mwyn cyd-daro â Diwrnod Rhyngwladol y Ferch.