Bydd cynlluniau gwario gwerth £15 biliwn yn cael eu cyhoeddi heddiw (Hydref 3) wrth i Lywodraeth Cymru amlinellu ei chyllideb ddrafft.
Am y tro cyntaf bydd y gyllideb yn cynnwys cyfraddau a bandiau dros y dreth tirlenwi a’r dreth trafodion sir – dwy dreth sydd wedi disodli’r dreth stamp yng Nghymru.
Bydd cyfanswm cyllideb pob adran yn cael eu cyhoeddi heddiw, ac mi fydd dadansoddiad manylach o’r gwariant yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y mis.
Cyhoeddodd Plaid Cymru ddydd Sul (Hydref 1) eu bod wedi dod i gytundeb â’r Blaid Lafur, a’u bod yn bwriadu cymeradwyo’r gyllideb am y ddwy flynedd nesaf.
Mae’r cytundeb â Phlaid Cymru yn cynnwys buddsoddiad £15 miliwn yn y Gymraeg, £40 miliwn i brifysgolion a cholegau, a £40 miliwn i wella gwasanaethau iechyd meddwl.