Dros yr wythnosau nesaf fe fydd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i’r gost o ofalu am bobol hŷn yng Nghymru er mwyn ymateb ac ymdopi i’r boblogaeth sy’n heneiddio.

Fe fydd y Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus tan 10 Rhagfyr 2017 gan alw am gyfraniadau gan y cyhoedd.

“Mae’n hanfodol bod y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cywir ar waith i ymdopi nid yn unig nawr, ond yn y dyfodol,” meddai Simon Thomas AC a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

“Fel rhan o’n hymchwiliad, bwriadwn edrych yn fanwl ar effaith ariannol polisïau Llywodraeth Cymru ar awdurdodau lleol, darparwyr gofal a defnyddwyr gwasanaeth deddfwriaeth gwasanaethau cymdeithasol diweddar a diwygiadau i gyllid gofal cymdeithasol,” ychwanegodd.

‘Pwysau ariannol’

Fe fyddan nhw’n archwilio’n benodol y galw am wasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer pobol o oedran pensiwn gan ystyried gofalwyr anffurfiol sy’n darparu gwasanaethau di-dâl i henoed.

Byddan nhw hefyd yn ystyried pwysau ariannol y system gofal cymdeithasol sy’n cynnwys cynnydd mewn cyflogau, cofrestru pensiwn awtomatig ac a oes anawsterau wrth recriwtio a chynnal staff.