Prynu Tafarn Sinc (Llun: Hefin Wyn)
Mae grŵp cymunedol yng ngogledd Sir Benfro wedi cadarnhau eu bod wedi cyflwyno cynnig am dafarn eiconig yn eu hardal.

Ym mis Ionawr eleni cyhoeddodd perchnogion Tafarn Sinc ym mhentref Rhos-y-bwlch ger Maenclochog eu bod yn bwriadu gwerthu’r dafarn wedi 25 mlynedd wrth y llyw.

Yn sgil y cyhoeddiad cafodd Cymdeithas Tafarn Sinc ei sefydlu a trwy’r flwyddyn mae’r grŵp wedi bod yn ymgyrchu i godi  £295,000 – sef pris gofynnol y dafarn.

Roedd yr ymgyrchwyr wedi gobeithio medru codi £200,000 erbyn diwedd mis Medi ond llwyddodd y grŵp i guro’r targed a chasglu £234,000.

Bellach mae’r grŵp wedi llwyddo i godi £260,000, ac er eu bod wedi dod i gytundeb â pherchnogion y tafarn maent yn gobeithio codi £100,000 eto.

“Tafarn rhyngwladol”

“Rydym yn falch o ddweud fod yna drafodaethau ar y gweill ac rydym yn disgwyl i’r cyfreithwyr gwblhau’r pryniant yn enw Cymdeithas Tafarn Sinc cyn diwedd y mis am swm na chaiff ei ddatgelu,” meddai Cydlynydd y prosiect, y Cynghorydd, Cris Tomos.

“Yn sicr bu’n rhaid torchi llewys a gweithio’n galed am gyfnod byr,” meddai Cadeirydd Dros Dro’r ymgyrch, Hefin Wyn, wrth golwg360.

“Ond, oeddwn i’n gwybod bod yna gefnogaeth ar gael nid dim ond yn lleol ond yn fyd-eang diolch i’r [actor wnaeth gyfrannu at yr ymgyrch] Rhys Ifans yn tynnu sylw at y ffaith bod Tafarn Sinc yn dafarn rhyngwladol erbyn hyn.”

Mae o hyd yn bosib i aelodau’r cyhoedd gyfrannu at yr ymgyrch trwy brynu cyfranddaliadau yn y dafarn sy’n werth £200, neu trwy ymuno â’u cynllun i gyfoedion gan gyfrannu £5,000.