Sian Lewis Prif Weithredwr yr Urdd (Llun: Urdd Gobaith Cymru)
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi mai Sian Lewis o Gaerdydd sydd wedi’i phenodi yn Brif Weithredwr i’r mudiad.

Mi fydd Sian Lewis yn gadael ei swydd fel Prif Weithredwr Menter Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n gyfrifol am drefnu amryw o ddigwyddiadau gan gynnwys gŵyl Tafwyl yn y brifddinas.

Er hyn, nid oes dyddiad wedi’i gyhoeddi eto o ran pryd y bydd yn dechrau ar ei swydd yn swyddogol gyda’r mudiad ieuenctid.

‘Arweinydd naturiol’

“Mae’r Urdd yn falch iawn bod Sian Lewis yn ymuno gyda ni fel Prif Weithredwr,” meddai Tudur Dylan Jones, Cadeirydd Urdd Gobaith Cymru.

“Mae hi wedi profi ei bod hi’n arweinydd naturiol, ac mae’r mudiad yn edrych ymlaen at gyfnod cyffrous o dan ei harweiniad.”

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd i gael fy mhenodi fel Prif Weithredwr yr Urdd,” ychwanegodd Sian Lewis a fu’n Swyddog Datblygu i’r Urdd rhwng 1994 – 2003.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio’n agos gyda staff a gwirfoddolwyr ymroddedig y mudiad er mwyn cynnig cyfleoedd gwych drwy’r iaith Gymraeg i blant a phobol ifanc Cymru.”