Harri Richards (Llun ohono ar raglen Noson Lawen oddi ar wefan YouTube)
Bu farw Harri Richards, y ffermwr a’r baledwr o Ben Llŷn.

Roedd yn adnabyddus am ei berfformiadau gwerinol, naturiol, o hen faledi cefn gwlad yn ogystal â cherddi a chaneuon modern.

Enillodd ar y gân werin a’r faled yn yr Eisteddfod Genedlaethol nifer o weithiau, ac fe gefnogodd eisteddfodau bach pen draw Llŷn hefyd.

Fe ddaeth ei bartneriaeth â Gruffudd Parry yn un enwog, wrth i’r llenor gyfansoddi baledi cyfoes ac i Harri Richards eu perfformio. Fe leisiodd hefyd ganeuon newydd gan Dafydd Morris, ffermwr llethrau’r Wyddfa.

Roedd yn frawd iau i’r Parchedig Emlyn Richards, wedi ei fagu ar fferm y Lôn yn Sarn Mellteyrn.