Aneurin Jones (Llun oddi ar dudalen Facebook Aneurin Meirion Jones)
Bu farw’r artist, Aneurin M Jones, yn 87 oed.
Fe dreuliodd ei flynyddoedd cynnar yng nghymuned amaethyddol Cwm Wysg ger yr Epynt, ac acen yr ardal honno fu ar ei wefus gydol ei oes.
At hynny, ffermwyr a cheffylau yr ardal honno fu’n ysbrydoliaeth i’w baentiadau ar hyd ei yrfa hefyd. Cymharodd, yn aml, fywyd yr artist gydag un y ffermwr, yn y ffordd yr oedd y naill a’r llall yn gorfod torri ei gwys ei hun yn y byd.
Daeth ‘Aneurin’, fel yr oedd yn arwyddo’i luniau, yn arbenigwr ar ail-greu osgo dynion cefn gwlad, tristwch diwedd cyfnod mewn cymunedau gwledig, ynghyd ag urddas a gwylltineb ceffyl y cob Cymreig.
Yn ardal Aberteifi yr ymgartrefodd wedi cyfnod yn astudio Celfyddyd Gair yn Abertawe yn y 1950au. Fe fu’n bennaeth Celf yn Ysgol y Preseli, Crymych tan ei ymddeoliad yn 1986.
Enillodd Aneurin Jones y brif wobr gelf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Machynlleth yn 1981, ac mae rhai o’i baentiadau yn rhan o gasgliadau cyhoeddus y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Ceredigion, a MOMA Cymru.