Mae drama sy’n cael ei pherfformio ar safle hen waith tun ym Mhort Talbot yn mynd at galon y tensiynau a’r pryder sy’n poeni’r bobol yn lleol.
Mae perfformiad We’re Still Here gan National Theatre Wales yn parhau tan ddiwedd mis Medi gan gyd-daro â’r newyddion yr wythnos hon am gynllun i uno cwmni dur Tata a Thyssenkrupp.
“Dyna beth yw gwreiddyn llwyddiant y cynhyrchiad,” yn ôl un o’r actorion, Ioan Hefin, sy’n wreiddiol o Fynydd-y-garreg ac yn byw ym Mhorth Tywyn, Sir Gâr.
“Rydym ni’n dda iawn yng Nghymru am edrych yn ôl i’r gorffennol, ni ddim yn ddim yn dda iawn o ran y dyfodol, a ni’n dueddol o anwybyddu’r presennol,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r ffaith fod hyn yn digwydd [y perfformiad] ynghanol newyddion mawr yn cyfleu pryder y gweithwyr,” meddai gan gyfeirio y gallai cannoedd o swyddi fod yn y fantol o ganlyniad i’r uno.
Gwaith Byass
Mae’r perfformiad We’re Still Here yn cael ei gynnal ar safle hen waith tun Byass ac mae’n “ail-greu’r awyrgylch yn berffaith,” meddai Ioan Hefin.
“Mae’n hen, yn fawr, yn frwnt ac yn byrlymu gydag atseiniau’r gorffennol.”
Mae’r actor a’r dramodydd yn chwarae rhan ‘Adrian’ sy’n swyddog gyda’r undeb llafur ac mae’r cast yn cynnwys Jason May, Simon Nehan, Siôn Tudor Owen a Sam Coombes – un sy’n gweithio yng ngwaith dur Port Talbot ers 2007.
‘Agoriad llygad’
Ag yntau’n gyfarwydd â dylanwad y gwaith tun ar ardal Llanelli, dywed Ioan Hefin ei fod wedi cael “agoriad llygad” wrth dreulio amser ym Mhort Talbot.
“Ni’n rhamantu’n aml iawn am Gwm Gwendraeth, hanes y diwydiant glo yn y cymoedd a chwareli’r gogledd – ond prin iawn rydyn ni’n ystyried beth sy’n digwydd yn y presennol, heddiw ar stepen ein drws a’r effaith mae hynna’n ei gael ar deuluoedd, unigolion a chymunedau ar draws Cymru.”
Perfformiad
Mae We’re Still Here yn ddrama gan yr awdures o’r Rhondda, Rachel Trezise, ac wedi’i gynhyrchu gan National Theatre Wales a Common Wealth.
Mae’r perfformiadau’n parhau tan ddydd Sadwrn, Medi 30.