Mae angen codi ymwybyddiaeth am ladrata gwenyn yng Nghymru, yn ôl perchennog cychod gwenyn o Ynys Môn.
Mae Katie Hayward yn rhedeg cwmni Felin Honeybees ym mhentref Cemlyn, ac mae hi’n berchen ar gychod gwenyn mewn 72 o lefydd ledled y gogledd.
Mi wnaeth lladron dwyn cychod o fewn pythefnos o sefydlu ei chwmni ddwy flynedd yn ôl, ac mae’n debyg y gwnaeth yr holl ffermwyr gwenyn lleol golli degau o filoedd o wenyn yn ystod mis Awst eleni.
Bellach, mae Katie Hayward wedi archebu system fonitro o’r Unol Daleithiau er mwyn rhwystro lladron yn y dyfodol. Ond mae hi’n parhau i bryderu am ddiffyg ymwybyddiaeth am y broblem.
“Mae pawb yn gyfarwydd â lladrata defaid a lladrata gwartheg, ond mae hyn yn fusnes pwysig,” meddai Katie Hayward wrth golwg360.
“Pe bai lleidr yn mynd â chychod o un o’n lleoliadau. Mi fyddan nhw’n medru achosi niwed ariannol sylweddol. £20,000 o niwed wedi tua dwy awr o waith lladrata.
“Mae’r byd cadw gwenyn wastad wedi bod yn eithaf neis a diniwed… Ond nawr mae’r byd modern wedi dal fyny â tharfu arnon ni. I feddwl bod un unigolyn drwg yn gwneud gwenynwyr eraill yn wyliadwrus… dydi o ddim yn deimlad braf.”
Cyngor
Mae Katie Hayward yn “bendant” mai perchnogion gwenyn eraill sydd yn gyfrifol am y lladrata, gan fod angen dealltwriaeth o wenyn a’u cychod er mwyn eu dwyn.
Yn ôl y wenynwraig, mae modd gwneud tipyn o arian trwy werthu mêl – mae mêl bellach yn £7 y pwys – ac mae hyn yn ysgogi’r lladron.
Â’r Gaeaf yn prysur agosáu, mae Katie Hayward yn cynghori gwenynwyr eraill i gadw llygad ar eu cychod gwenyn trwy gydol y tymor – er dydyn nhw ddim yn tueddu gwneud hyn yn arferol.
“Dw i ddim yn mynd i adael i hyn gau fy musnes i lawr,” meddai. “Mae’n rhaid i chi fwrw ymlaen a meddwl am ffyrdd eraill o ddiogelu eich ‘da byw.’”