Y ddiweddar Carol Boardman (Llun: Heddlu Gogledd Cymru/PA)
Mae dyn a dynes wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiadau’n ymwneud â marwolaeth beicwraig oedrannus yn Sir y Fflint y llynedd.
Cafodd Carol Boardman, 75, ei lladd mewn gwrthdrawiad ar gylchfan Ffordd yr Wyddgrug a Ffordd Llannarth yng Nghei Connah ar Orffennaf 16.
Ymddangosodd Liam Rosney, 32, gerbron Ynadon yr Wyddgrug ddydd Llun (Medi 25) wedi’i gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.
Mae’r dyn o Gei Connah hefyd wedi’i gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder – ynghyd â Victoria Rosney, 31, sydd hefyd o’r un dref.
Mae Ynadon wedi trosglwyddo’r achos i Lys y Goron y Wyddgrug, ac mi fydd y dyn a’r ddynes yn ymddangos yno ar Hydref 27.
Roedd Carol Boardman yn fam i’r beiciwr Olympaidd, Chris Boardman, wnaeth nodi ar gyfryngau cymdeithasol ei bod yn “berson positif … oedd yn ysbrydoli pawb.”