Mae’n “hollol annerbyniol” bod cwmnïoedd preifat yn medru gwrthod darparu eu gwasanaethau trwy’r Gymraeg, yn ôl mudiad Cymdeithas yr Iaith.
Daw sylw’r mudiad yn sgil ffrae ddiweddar â banc Santander – gwrthododd y banc â derbyn eu ffurflenni aelodaeth gan eu bod yn Gymraeg.
Ar ôl i’w ffurflenni gael eu gwrthod, mae’n debyg gwnaeth y mudiad dderbyn neges yn nodi mai “dim ond dogfennau a ysgrifennwyd yn Saesneg y gall Santander eu derbyn.”
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mi ddylai safonau iaith gael eu hymestyn i gynnwys banciau ac i’w gorfodi i ddarparu gwasanaeth trwy’r Gymraeg.
Mae’r mudiad wedi ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, ac wedi ei herio i “ddatrys y mater”.
“Hollol annerbyniol”
“Mae hyn yn enghraifft arall o gwmni preifat yn gwrthod darparu gwasanaeth Cymraeg, gan nad oes gorfodaeth arnynt i wneud hynny, ac mae’n hollol annerbyniol,” meddai Cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith, Manon Elin.
“Mae’n rhaid cael deddf iaith sy’n cynnwys banciau er mwyn sicrhau hawliau sylfaenol i ddefnyddio’r Gymraeg. Yn anffodus, mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil y Gymraeg yn ei gwneud yn llai tebygol y caiff dyletswyddau cyfreithiol eu gosod ar y cwmnïau hyn i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Santander a Llywodraeth Cymru am ymateb.