Enghraifft o waith Gôl! - helpu plant Serbia i wylio Cymru (Llun Gôl! )
Gyda gwobr gan UEFA y llynedd am eu hymddygiad yn Ewro 2016, mae cefnogwyr pêl-droed Cymru yn parhau i gadw’r enw da wrth helpu plant anghenus ledled Ewrop.
Mae rhai o’r ‘Wal Goch’ wedi penderfynu gyrru 2,500 i Georgia ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd ar Hydref 6 gan rannu nwyddau ar y ffordd ar gyfer plant sydd mewn angen.
Bydd dau gar yn cychwyn ar y daith deg diwrnod i ddinas Kutaisi sydd wedi ei gefeillio â Chasnewydd gan weithredu yn enw’r elusen Gôl!.
Bydd y cefnogwyr, sy’n dod o Gaerdydd, Caerffili a’r Hengoed, yn cludo cit pêl-droed, llyfrau, dillad a rhoddion eraill, ac os cyrhaeddan nhw’n ddiogel, byddan nhw’n cyfrannu eu ceir at achosion da yn Georgia.
‘Gwneud y pethau bychain’
Bydd y cefnogwyr yn cychwyn heddiw gan fynd trwy Gwlad Belg, Gwlad Pwyl ag Ukrain, cyn treulio 48 wyth awr yn croesi’r Môr du o Odessa i Poti yn Georgia.
“Rhaid diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y daith anhygoel yma,” meddai un o gefnogwyr amlwg Gôl!, Tim Hartley.
“R’yn ni’n gwneud y pethau bychain er mwyn ceisio helpu pobol llai ffodus na ni a hefyd i godi proffil cefnogwyr pêl-droed ar draws Ewrop.
‘Llysgenhadon’
Mae’r cefnogwyr wedi llwyddo i gael gwmni Cyngor Ariannol Macsen a’r cwmni ap gofal plant, Wibl i noddi’r ceir – y trydydd tro iddyn nhw gynnig cefnogaeth ariannol i Gôl!
Dywedodd Cyfarwyddwr Macsen, Gweirydd ap Gwyndaf, “Mae’n bleser gallu cefnogi Gôl! unwaith eto eleni. Maen nhw’n gwneud gwaith gwerthfawr, nid yn unig i blant anghenus, ond hefyd fel llysgenhadon i Gymru ac i bêl-droed Cymru, ac mae Macsen a Wibl yn falch i allu gwneud cyfraniad i’r achos.”
Azerbaijan
Mae Gôl! wedi meithrin perthynas agos gyda Georgia. Gyrrodd y cefnogwyr yno yn 2009 ar eu ffordd i Azerbaijan i wylio Cymru.
Bryd hynny teithiodd 27 o gefnogwyr i Kutaisi gan adael chwech o geir a rhoddion eraill i elusennau yno. A’r hydref diwethaf fe drefnon nhw i ddau blentyn o Kutaisi ymweld â Chaerdydd ar gyfer y gêm bêl-droed rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd Nicoloz Rukhadze oedd yn gwarchod y plant, “Mae’n wych bod y berthynas yma gyda ni. R’yn ni’n wlad fach hefyd ac mae’n dda cynnal y berthynas a’r cyfeillgarwch yma gyda chenedl debyg i ni.”
Yn ystod yr ymweliad rhwng 1 a 4 Hydref bydd Gôl! yn ymweld â chanolfan wirfoddol i bobol ifanc awtistig gyda chit arbennig ASD. Bydd y cefnogwyr yn ymweld â nifer o achosion plant eraill tra byddan nhw yn Kutaisi ynghyd â chartref i blant yn y brifddinas Tbilisi cyn y gêm fawr.
Fe fyddai’n dda gweld pobol ifanc Kutaisi unwaith eto, meddai Tim Hartley, cyn ychwanegu bod un pwrpas arall i’r daith …
“Gwylio Cymru yn ceisio mynd drwodd i Gwpan y Byd 2018, ac yn sicr heb os ac oni bai – mae’n rhaid i ni ennill y gêm i gadw’r freuddwyd o gyrraedd Rwsia.”
- Mae Gôl! yn helpu elusennau plant bob tro y mae’r tîm cenedlaethol yn chwarae. Fe gafodd ei sefydlu yn 2002 yn Azerbaijan gan gefnogwyr oedd yn dymuno ‘gwneud gwahaniaeth’. Ers hynny mae wedi gweithio mewn rhagor na 40 o wledydd ar draws y byd gan gynnig arian a rhoddion at achosion da i blant.
Stori: Tommie Collins