Ar ôl dechrau mor addawol i’w gêm Bencampwriaeth olaf yng Nghaerdydd, cafodd bowlwyr Morgannwg eu cosbi ar yr ail ddiwrnod gan fatwyr Swydd Gaerloyw.
Fe fydd Swydd Gaerloyw’n dechrau’r diwrnod ar 161-1, 281 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 442.
Dechreuodd Morgannwg y diwrnod ar 342-7, a’r batiwr 19 oed o Gaerdydd, Kiran Carlson yn 137 heb fod allan, wrth anelu i fod y chwaraewr ieuengaf erioed i daro canred dwbwl dros Forgannwg.
Ond fe gwympodd e naw rhediad yn brin o’r nod pan gafodd ei ddal ar ochr y goes ar ôl gyrru pelen gan Jack Taylor. Fe barodd ei fatiad saith awr 23 munud, ac fe wynebodd e 319 o belenni, gan daro 26 pedwar a dau chwech.
Roedd e eisoes wedi ychwanegu 97 mewn partneriaeth â Ruaidhri Smith am yr wythfed wiced cyn i Jack Taylor gipio dwy wiced mewn tair pelen. Gwyrodd Smith belen i’r slip ar 38, cyn i’r bowliwr daro coes Marchant de Lange o flaen y wiced heb sgorio.
Daeth y batiad i ben pan gollodd Kiran Carlson ei wiced, ac roedd Morgannwg i gyd allan am 442.
Ymateb Swydd Gaerloyw
Doedd Benny Howell ddim wedi chwarae’r un gêm Bencampwriaeth y tymor hwn cyn y gêm hon, ac fe orffennodd e’r ail ddiwrnod ar 96 heb fod allan wrth i Swydd Gaerloyw geisio brwydro’n ôl yn eu batiad cyntaf.
Pe bai e’n sgorio’r pedwar rhediad sydd eu hangen i gyrraedd ei ganred, dyma fyddai’r ail dro iddo gyrraedd y garreg filltir yn ei yrfa dosbarth cyntaf, ddwy flynedd ar ôl ei ganred cyntaf.
Fe gafodd ei gefnogi gan James Bracey, sy’n 45 heb fod allan.
Wrth agor y batio, adeiladodd Benny Howell a Chris Dent bartneriaeth wiced gyntaf o 53 mewn 15 pelawd, cyn i Dent roi daliad syml i’r wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Ruaidhri Smith.
Mae Howell a Bracey wedi adeiladu partneriaeth ail wiced o 108 hyd yn hyn, ond mae disgwyl glaw sylweddol dros y ddau ddiwrnod nesaf ac felly, fe allai eu hymdrechion fod yn ofer yn y pen draw.