Fe fydd y Bala eisiau rhoi hunllef ddydd Sadwrn diwethaf y tu cefn iddyn nhw heno ar Y Graig yn erbyn Derwyddon Cefn.

Fe fyddan nhw’n falch o gêm mor fuan wedi’r grasfa gartref gan Gaerfyrddin, 0-4. Roedd y sgôr yr un â’r golled waethaf brofodd y tîm o Faes Tegid yn erbyn Y Rhyl yn 2009.

“Roedden ni’n wael o’r munudau cynnar,  yn ildio gôl, ac ar ôl hynny roedden ni’n siasio’r gêm ac mi gawson ni ein dal allan,” meddai’r rheolwr, Colin Caton, wrth golwg360.

“Roedden ni’n wael ac yn haeddu’r gweir, roedd o’n ddiwrnod gwael yn y swyddfa, a dim digon da i’r clwb.”

Gyda’r Bala yn y seithfed safle, heno fydd y tro cyntaf iddyn nhw chwarae ar nos Iau yn y gynghrair mewn menter newydd gan  Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Ar ôl dwy golled yn olynol, mae Colin Caton yn disgwyl ymateb positif.

Bydd Anthony Stephens ddim ar gael oherwydd anaf hir dymor, ond bydd yr amddiffynnwr David Thompson ar gael, ond bydd y Bala heb yr asgellwr Ryan Wade, wnaeth ymuno ac Aberystwyth yn ddiweddar.

Nos Wener ddiwethaf gêm gyfartal gafodd Derwyddon Cefn yn erbyn Prestatyn, gyda Nathan Peate yn unioni’r sgôr yn hwyr yn y gêm. Bydd rheolwr Derwyddon, Huw Griffiths yn gwybod y bydd Y Bala angen bownsio’n ôl yn syth yn erbyn ei dîm.

Barri v Caerfyrddin

I lawr yn Y Barri, fe fydd Caerfyrddin yn gobeithio cario ymlaen â’r un math o berfformiad gawson nhw yn Y Bala, ond fe fydd tîm Gavin Chesterfield yn edrych am fuddugoliaeth a allai godi’r Barri mor uchel â’r chweched safle.

Mae’r ddau dîm wedi cwrdd 16 o weithiau yn yr Uwch Gynghrair, gyda’r Barri yn fuddugol mewn saith o’r gemau a Chaerfyrddinmewn tair. Y tro diwethaf i’r Barri guro’r ‘Old gold’, fe sgoriodd Adebayo Akinfenwa mewn buddugoliaeth 3-1.

Fe fydd Y Barri heb yr ymosodwr, Jordan Cotterill, oherwydd anaf, ond fe fydd Macauley Southam ar gael i chwarae ei gêm gartref gyntaf.