Robert Croft (Llun Clwb Criced Morgannwg)
“Mae’n cymryd llawer o amser i ddodi tîm fel’na at ei gilydd” yw barn Robert Croft am dîm criced Morgannwg a gododd dlws Pencampwriaeth y Siroedd yn Taunton union ugain mlynedd yn ôl i heddiw (Medi 20).
Roedd prif hyfforddwr presennol y tîm yn aelod gwerthfawr o’r tîm hwnnw, y tîm diwethaf yn hanes Morgannwg i ennill y Bencampwriaeth, a hynny ar ôl trechu Gwlad yr Haf ar eu tomen eu hunain yng ngêm ola’r tymor hwnnw.
Hwn oedd y trydydd tro yn eu hanes iddyn nhw ennill y Bencampwriaeth – a 28 mlynedd ar ôl eu llwyddiant blaenorol yn 1969. Enillon nhw’r Bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 1948.
Drwy gydol tymor 1997, dim ond dwy gêm gollodd Morgannwg – y naill yn erbyn Swydd Gaerwrangon, a’r llall yn erbyn Swydd Middlesex, pan gawson nhw eu bowlio allan am 31 mewn batiad.
Wrth gofio’n ôl i’r diwrnod siomedig hwnnw yng Nghaerdydd, dywedodd Robert Croft wrth Radio Cymru: “O’n i’n meddwl bod [y prif hyfforddwr] Duncan Fletcher yn mynd i sgrechen arnon ni, ond nath e ddweud dim byd, jyst symud ymlaen i’r gêm nesa’, jyst cadw pobol i edrych ymlaen, ddim yn ôl.”
Y Cymry blaenllaw
Wrth gymharu tîm Morgannwg dros y tymhorau diwethaf gyda’r tîm hwnnw yn 1997, mae cefnogwyr yn aml yn dweud mai Cymreictod tîm y Bencampwriaeth oedd yn rhannol gyfrifol am eu llwyddiant.
Dywedodd Robert Croft: ““Pan y’n ni’n edrych yn ôl, roedd tîm arbennig gyda ni, llawer o fois profiadol, bois fel Waqar Younis [o Bacistan], Steve Watkin, Hugh Morris, Steve James, Matthew Maynard, Tony Cottey, ond digon o fois ifanc yn y tîm i drial cadw’r ysbryd lan – Adrian Shaw, Darren Thomas a Dean Cosker – a’r bois i gyd yn dod at ei gilydd.
“Ro’dd llawer o dalent yn tîm ni a hefyd llawer o ysbryd.”
Prosiect tymor hir
Penllanw blynyddoedd o waith paratoi oedd y fuddugoliaeth yn 1997, gwaith oedd wedi dechrau ar ddechrau’r 1980au, yn ôl Robert Croft.
“Pan y’ch chi’n trial dodi tîm at ei gilydd sy’n gallu cystadlu yn y Bencampwriaeth, mae’n cymryd llawer i flwyddyn i’w wneud e.
“O siarad gyda Hugh Morris, dechreuodd e gyda Morgannwg yn 1981, fi’n credu, a’r bois eraill, Steve Watkin, Matthew Maynard, o’n nhw wedi chwarae llawer o griced dros Forgannwg cyn bo ni’n ennill y Bencampwriaeth yn 1997. Mae’n cymryd llawer o amser i ddodi tîm fel’na at ei gilydd.”
Waqar Younis – ‘y Cymro’
Mae’r bowliwr cyflym o Bacistan, Waqar Younis yn aml yn cael ei ddisgrifio fel yr “eisin ar y gacen” a ‘Chymro anrhydeddus’ yn nhîm Cymreig Morgannwg, ac roedd pythefnos o berfformiadau gyda’r bêl ddiwedd mis Mehefin 1997 yn dyst i hynny.
Fe gipiodd e saith wiced mewn batiad yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Aigburth, Lerpwl cyn cipio wyth wiced mewn batiad yn erbyn Swydd Sussex rai diwrnodau’n ddiweddarach.
Meddai Robert Croft: “Ro’dd pawb yn gwybod fod e’n gricedwr arbennig a hefyd, pan o’dd e gyda ni, o’dd e’n ennill gemau ar ben ei hunan. O’dd Steve Watkin fel workhorse dros y blynydde i ni, ond rhaid iddo fe gael rhywun fel Waqar Younis yn y tîm.
“Fi’n cofio yn y gêm lawr yn Abertawe yn erbyn Sussex, cerdded ma’s gyda Waqar Younis. O’dd Sussex wedi colli’r gêm cyn bod un belen wedi mynd lawr, y ffordd o’dd e’n gallu helpu ni.”
Taunton
Yn ôl Robert Croft, roedd y bartneriaeth o 235 rhwng Hugh Morris (165) a’r capten Matthew Maynard (142) yn y batiad cyntaf yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton yn allweddol i’w buddugoliaeth.
“Fi’n cofio nawr y ffordd o’n nhw wedi gwneud y bartneriaeth ’na. O’dd Matthew Maynard yn bwrw popeth dros y ffin, ond yr ochr arall, Hugh Morris yn cymryd ei amser. Ond y bartneriaeth ’na yn bwysig i ni.
“O’dd y golau yn wael ac o’n ni’n meddwl bod y tywydd yn dod mewn ac yn gorffen off y gêm i ni. Y ffordd o’n nhw wedi dodi’r rhediadau at ei gilydd, o’n nhw wedi dod ag amser nôl mewn i’r gêm. Os o’dd y tywydd yn dod nôl, o’dd digon o amser gyda ni nawr i ennill.”
Sgoriodd Morgannwg 527 yn y batiad hwnnw ar ôl bowlio Gwlad yr Haf allan am 252 yn eu batiad cyntaf. Sgoriodd y Saeson 285 yn eu hail fatiad, oedd yn golygu mai 11 o rediadau oedd eu hangen ar Forgannwg i ennill yn eu hail fatiad nhw.
Buddugoliaeth
Ymdrech y tîm cyfan oedd wedi arwain at y fuddugoliaeth y tymor hwnnw, yn ôl Robert Croft.
“R’yn ni wedi siarad lot am Waqar Younis, Steve Watkin, Hugh Morris a Matthew Maynard ond cofio hefyd am y bois fel Darren Thomas. Cymerodd e lawer o wicedi yn y gêm ola, Dean Cosker lawr yn Abertawe, Tony Cottey fan hyn [Caerdydd] yn erbyn Essex. O’dd llawer o bobol wedi dod at ei gilydd ac wedi gwneud rhywbeth yn ystod y tymor yna.
“Fi’n cofio bois eraill yn dod mewn i chwarae gyda ni. O’dd Alun Evans, Gary Butcher wedi cael un neu ddwy gêm ond o’dd y sgwad yn gryf iawn a hefyd o’dd llawer o dalent gyda ni.
“O’dd e’n amser arbennig, a gobeithio yn y dyfodol bo ni’n gallu’i weld e eto.”