Llun: S4C
Mae S4C wedi cyhoeddi fod tair miliwn o bobol bellach yn gwylio deunydd y sianel ar gyfryngau cymdeithasol bob mis.

Dwy flynedd yn ôl, ym mis Medi 2015, roedd cynnwys S4C ar Facebook, YouTube a Twitter yn cael ei wylio 40,000 o weithiau’r mis. Ym mis Rhagfyr y llynedd cyrhaeddodd y ffigwr gwylio ar wefannau cymdeithasol ddwy filiwn.

Fis diwethaf, cyhoeddodd y sianel fod fidoes byrion sy’n cael eu cyhoeddi dan y teitl Hansh wedi cael eu gwylio filiwn o weithiau ers ei lansio ym mis Mehefin.

Cynnwys ar-lein

Mae gwasanaeth gwylio Hansh yn cynnig fideos gan amryw o gymeriadau gan gynnwys DJ Bry, Hywel Pitts a’r Welsh Whisperer, Esyllt Ethni-Jones a’r epa sinsir Gareth.

Mae S4C hefyd yn cyfeirio at gynnydd clipiau Heno, Newyddion 9 a Sgorio ar gyfryngau cymdeithasol.

“Mae’r cynnydd rhyfeddol yma’n dod yn sgil ein strategaeth o weithio gyda chyflenwyr S4C i gynyddu’r cynnwys sydd ar gael ar-lein,” meddai Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C.

“Rydym nawr yn mesur union niferoedd gwylwyr ar y llwyfannau yma i gyd, ac yn amlwg mae pobol yn hoffi pori a phrofi amrywiaeth helaeth o gynnwys,” meddai.

Crynodeb o’r ffigurau – mis Awst 2017

  • Facebook – 2,702,182 wedi gwylio (85%)
  • YouTube – 264,003 wedi gwylio (8%)
  • Twitter – 220,943 wedi gwylio (7%)
  • Cyfanswm – 3,187,128 wedi gwylio