Cafodd Matthew Rhys ei enwebu am ei ran yn The Americans (Llun: Golwg360)
Noson siomedig oedd hi i’r actorion o Gymru, Anthony Hopkins a Matthew Rhys, yn yr Emmys nos Sul, gyda dim un o’r ddau yn llwyddo i ennill gwobr.
Roedd y ddau wedi eu henwebu yng nghategori ‘actor gorau mewn cyfres ddrama’- Anthony Hopkins am ei rôl yn Westworld, a Matthew Rhys am ei rôl yn The Americans.
Roedd Sherlock: The Lying Detective – sydd yn cael ei ffilmio yng Nghymru – hefyd wedi ei henwebu am wobr ‘ffilm deledu orau’ ond yn aflwyddiannus.
Prif enillwyr y seremoni yn Los Angeles, California, oedd cyfresi The Handmaid’s Tale a Big Little Lies gyda’r ddau yn ennill pum gwobr yr un.
Elisabeth Moss wnaeth dderbyn gwobr yr ‘actores orau mewn cyfres ddrama’ am ei rôl yn The Handmaid’s Tale, a Sterling K Brown o This is Us wnaeth cipio gwobr ‘actor gorau mewn cyfres ddrama’.
Enillodd The Crown un wobr yn unig – John Lithgow am yr ‘actor cynorthwyol gorau’ – er i’r gyfres dderbyn 13 enwebiad.