Ty'r Cyffredin Llun: PA
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu mai dim ond dau Aelod Seneddol o Lafur sydd cynnig eu henwau i fod ar y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan y tymor hwn.
Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am archwilio materion sydd o dan gyfrifoldeb Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac unrhyw bolisïau sy’n effeithio ar Gymru.
Mae lle i ddeg Aelod Seneddol o Gymru a Chadeirydd yn rhan o’r Pwyllgor a bu 5 o’r Ceidwadwyr, 3 o Lafur, 1 o Blaid Cymru ac 1 o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhan ohono ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Ond eleni dim ond pump sydd wedi cynnig eu henwau ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu derbyn y prynhawn yma…
- Chris Davies a Glyn Davies, Ceidwadwyr
- Ben Lake, Plaid Cymru
- Geraint Davies a Paul Flynn, Llafur
‘Adlewyrchiad trist’
Yn ôl Ben Lake o Blaid Cymru, gafodd ei ethol yng Ngheredigion ym mis Mehefin, mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn gwneud “gwaith hanfodol” yn y Senedd.
“Mae’r ffaith mai dim ond dau o’r 28 AS Llafur yng Nghymru a benderfynodd roi eu henwau gerbron yn adlewyrchiad trist o ddifaterwch y Blaid Lafur tuag at Gymru,” meddai.
“Mae eu haddewidion i ‘sefyll cornel Cymru’ ac ‘atal y Torïaid rhag sathru dros Gymru’ yn hollol chwerthinllyd pan welwn mewn gwirionedd gyn lleied y maent yn wneud yn San Steffan.”
“Mae gweld mai dim ond dau AS Llafur all drafferthu i graffu ar y Torïaid mor rhwystredig ag y mae’n sarhaus. Achos mwy o bryder, efallai, yw mai’r un Blaid Lafur swrth a difater sy’n rhedeg Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.”
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Pwyllgor i sicrhau fod gan “bobol Ceredigion a Chymru lais cryf ac effeithiol yn San Steffan.”
Llafur – ar y fainc flaen
Mewn ymateb i’r sylwadau dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru fod hwn yn “ymosodiad absẃrd” gan Blaid Cymru gan ychwanegu ei fod yn “anghywir” ac yn “gam-gynrychiolaeth fwriadol.”
“Mae gan fwy na hanner AS Llafur Cymru rolau cysgodol ar y fainc flaen, sy’n eithrio’r rhan fwyaf o ASau Cymru rhag eistedd ar y pwyllgorau,” meddai’r llefarydd.
“Ond mae hyn yn golygu fod gan AS Llafur Cymru gynrychiolaeth well nag o’r blaen yn y Cabinet Cysgodol ac ar y fainc flaen, ac felly yn eu galluogi i sefyll i fyny dros Gymru a dal y Torïaid i gyfrif.”
Ychwanegodd fod “pobol ledled Cymru wedi gweld drostyn nhw eu hunain yn ystod yr wythnos diwethaf yn unig mai ASau Llafur Cymru oedd yn arwain y blaen yn erbyn Alun Cairns a’i addewidion gwag ar reilffyrdd, swyddi, morlynnoedd llanw’r môr a buddsoddiad isadeiledd.”