Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ddigwyddiad ym Mangor Uchaf amser cinio dydd Mawrth yr wythnos hon – pan gafodd dyn ei weld yn cael ei ‘gymryd’ i mewn i gar ar Ffordd Caergybi.

Yn ol llefarydd ar ran y llu, roedd yna dri o bobol ynghlwm â’r digwyddiad toc cyn 11yb, pryd y cafodd dyn bregus yn ei 40au ei gymryd.

Oherwydd ymateb cyflym gan aelod o’r cyhoedd, fe gafodd yr heddlu wybod am y peth, ac fe gafodd y cerbyd ei stopio yn ardal Ffriddoedd yn y ddinas. Fe gafodd dwy o ferched lleol yn eu 30au eu harestio ar amheuaeth o herwgipio.  

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am dystion a allai fod wedi gweld cerbyd Vauxhall Astra yn ardal Ffordd Caergybi fore Mawrth, Awst 22, ac yn benodol cyn 11yb.