Jeremy Corbyn (Garry Knioght CCA 2.0)
Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi cefnogi gweithwyr cymdeithas dai yn Nhorfaen wrth iddyn nhw streicio tros amodau gwaith.
Mae Jeremy Corbyn wedi canmol eu proffesiynoldeb a’r “gwasanaeth gwerthfawr” y maen nhw’n ei gynnig i’r gymuned leol.
Wrth i’r streic bum niwrnod ddod i ben – y ddiweddara’ mewn cyfres o streiciau byr – fe alwodd ar benaethiaid Cymdeithas Tai Bron Afon i “ddatrys yr anghydfod yn gyflym ac mewn modd boddhaol”.
Neges i’r undeb
Mae’r streic ddiweddaraf wedi’i threfnu gan Unsain ac fe ddaeth sylwadau Jeremy Corbyn mewn llythyr at yr undeb.
“Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig ydych chi i gymuned Torfaen, gan helpu defnyddwyr gwasanaethau sy’n fregus i aros yn eu cartrefi a derbyn y gefnogaeth maen nhw’n ei haeddu,” meddai..
“Rwy’n diolch i chi am eich ymroddiad a’r gwaith rydych chi’n ei wneud.”
Y cwmni
Mae’r Aelod Seneddol Nick Thomas-Symons a’r Aelod Cynulliad Lynne Neagle wedi bod yn ymuno â’r gweithwyr yn ystod y streic ddiweddaraf.
Mae’r gweithwyr yn y cwmni nid-am-elw yn cynnig cefnogaeth i bobol fregus dros 50 oed i dderbyn gofal yn eu cartrefi ac yn eu helpu i hawlio budd-daliadau, yn ogystal â bod yn eiriolwyr wrth geisio datrys problemau tai ac arian.
Maen nhw hefyd yn cynnig cefnogaeth ymarferol i bobol â salwch iechyd meddwl, pobol sy’n gaeth i rywbeth a dioddefwyr trais yn y cartref.
Yr anghydfod
Enillodd Bron Afon gytundeb newydd fis Rhagfyr y llynedd ond fis Ebrill eleni, cyflwynodd penaethiaid y cwmni gytundebau newydd i weithwyr.
Roedd y cytundebau hynny’n torri cyflogau o rhwng £1,500 a £3,000, gyda’r rhan fwya’n colli’r £3,000 – ar yr un pryd roedd hyd shifftiau a nifer cleientiaid yn cynyddu.