Tony Rucinski (Llun cyhoeddusrwydd)
Mae corff sydd yn gyfrifol am warchod anghenion cleifion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru wedi cadarnhau bod eu Prif Weithredwr wedi cael y sac.

Cafodd Tony Rucinski ei benodi i’r rôl gan Fwrdd y Cynghorau Iechyd Cymunedol yng Ngorffennaf 2015 a chafodd ei wahardd ganddyn nhw ym mis Chwefror 2016. Ond mae bellach wedi’i ddiswyddo.

Dydy’r Bwrdd erioed wedi esbonio pam y cafodd Tony Rucinski ei wahardd o’i rôl, a doedd ei statws o fewn y Bwrdd ddim yn eglur tan yr eglurhad heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb trwy nodi mai “mater mewnol i Fwrdd y Cynghorau Iechyd Cymunedol yw hyn, nid mater i’r Llywodraeth.”

Mae Aelodau Cynulliad wedi beirniadu Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd yn y gorffennol am beidio â datgelu’r rhesymau dros waharddiad Tony Rucinski.

Datganiad

“Gallwn gadarnhau bod rôl Dr Tony Rucinski yn Brif Swyddog Gweithredol gyda Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymunedol yng Nghymru wedi dod i ben,” meddai prif weithredwyr gweithredol y bwrdd Alyson Thomas a Clare Jenkins.

“Fe fyddai’n amhriodol i ni wneud unrhyw sylw pellach ynglŷn â mater adnoddau dynol mewnol.”