Bonnie Tyler (Albin Olsson CC BY-SA 3.0)
Mae’r Gymraes 66 oed Bonnie Tyler wedi cyrraedd brig y siartiau lawrlwytho yr wythnos hon yn dilyn diffyg ar yr haul yn yr Unol Daleithiau.

Fe gurodd hi Justin Bieber i gyrraedd y brig gyda Total Eclipse of the Heart, cân a gafodd ei chyhoeddi am y tro cyntaf yn 1983.

Roedd hi wedi perfformio’r gân gyda’r band Americanaidd Dnce ar long a deithiodd i’r Unol Daleithiau i weld y diffyg ar yr haul ddydd Llun.

Dywedodd y gantores o Abertawe wrth newyddion ITV bod ei llwyddiant diweddara’n “wallgof ond yn wych”.