Rhodri Sion (canol) gyda Jennifer Thomas (chwith) a Dr Haydn Edwards (cadeirydd y Coleg Cymraeg)
Un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd yn derbyn Gwobr Goffa yr Athro Gwyn Thomas eleni.
Cafodd y wobr ei dyfarnu i Rhodri Siôn, am ei draethawd buddugol ‘Beowulf a Grendel: Cyfieithu a Sylwebaeth’.
Mae Rhodri Siôn yn dod o Lanrwst ac fe raddiodd o Brifysgol Aberystwyth â BA mewn Cymraeg Proffesiynol yn 2016.
Cafodd y wobr ei sefydlu i goffa yr Athro Gwyn Thomas a fu farw ym mis Ebrill 2016, ac mae’n cael ei rhoi i awduron traethodau cyfrwng Cymraeg. Rhaid i’r awdur fod yn fyfyriwr israddedig o brifysgol yng Nghymru i fod yn gymwys.
“Hynod o uchelgeisiol”
“Mae’r gwaith yma yn hynod o uchelgeisiol ac mae wedi’i gyflwyno’n llwyddiannus,” meddai’r arholwr allanol, yr Athro Dafydd Johnston.
“Ceir rhesymau aeddfed yn y sylwebaeth sy’n dangos dealltwriaeth a chryn feistrolaeth ar yr iaith a’i hadnoddau. Llwydda Rhodri i gyfiawnhau ei gyfieithiad a’i ddehongliad yn ddeallus a gwybodus.”
Cafodd y wobr ei chyflwyno gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar Faes yr Eisteddfod yn Ynys Môn ar ddydd Mawrth, Awst 8.