Mae undeb sy’n cynrychioli gweithwyr mewn ffatri injans ceir ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau bod eu gweithwyr wedi pleidleisio o blaid streicio.
Yn ôl undeb Unite, mae 52% o weithwyr y ffatri Ford wedi pleidleisio o blaid streicio yn erbyn y bygythiad o golli swyddi.
Yn sgil y bleidlais, mae disgwyl bydd swyddogion yr undeb yn mynd ati i gyfarfod rheolwyr Ford ac i drafod sut i ddod â’r anghydfod i ben.
Y cefndir
Dechreuodd pryderon am golledion swyddi yn y ffatri ym mis Medi llynedd, pan gyhoeddodd y cwmni eu bod yn bwriadu torri eu buddsoddiad mewn math newydd o injan.
Bydd yr injan newydd hon – y ‘Dragon’ – yn dechrau cael ei chynhyrchu ym Mhen-y-bont blwyddyn nesaf.
Ym mis Chwefror, ymddangosodd adroddiadau y gallai dros 1,000 o swyddi gael eu colli yn y ffatri pan fydd cynhyrchiad dau fath arall o injan yn dod i ben yn 2020.
Cynllun ceir newydd
Mae cwmni Ford wedi cyhoeddi cynllun heddiw, fyddai’n galluogi gyrwyr i sgrapio ceir sydd yn llygru, ac i dderbyn miloedd o bunnoedd i’w cyfrannu at brynu car newydd glanach.
Gall unrhyw un â char neu fan sydd wedi’u cofrestru cyn Rhagfyr 31, 2009, fod yn rhan o’r cynllun sydd yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn.
Mae modd derbyn cyfraniad ariannol tuag at ystod o geir Ford, o £2,000 am Fiesta newydd, i £7,000 ar gyfer fan Transit.