Mae pryderon am ddyn 51 oed sydd ar goll o Gricieth.
Mae Neil Richards yn cael ei ddisgrifio fel dyn o gorffolaeth fawr ac yn 6’4″ o daldra.
Pan aeth ar goll, roedd e’n gwisgo crys polo glas tywyll, trowsus duon ac esgidiau brown.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r Gogledd ar 101.