Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai Aelodau’r Cynulliad gael yr hawl i rannu swyddi o dan drefn newydd.
Ar hyn o bryd, does dim hawl gan Aelodau Cynulliad yn yr un o wledydd Prydain rannu swyddi, ond mae ymgyrchwyr yn dadlau y gallai ddenu mwy o fenywod a phobol ag anableddau i sefyll yng Nghymru.
Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cadarnhau fod rhannu swyddi’n “bosibilrwydd”.
Mwy o fenywod?
Fel rhan o Fesur Cymru 2017, fe fydd gan y Cynulliad yr hawl i ddeddfu ynghylch etholiadau ar ôl derbyn rhagor o bwerau.
Ar hyn o bryd, mae 24 o Aelodau’r Cynulliad yn fenywod.
Collodd dau ymgeisydd o’r Blaid Werdd eu hachos yn yr Uchel Lys yn 2015 i sefyll i rannu swydd yn San Steffan.
Deddfwriaeth newydd
Bydd deddfwriaeth newydd yng Nghymru eleni’n rhoi’r hawl i’r Cynulliad ddewis pryd i gynnal etholiadau, pwy fydd yn cael yr hawl i bleidleisio a newid y drefn etholiadol.
Bydd angen i ddau draean o Aelodau’r Cynulliad dderbyn y newidiadau cyn iddyn nhw ddod i rym.