Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â chynlluniau cwmni Horizon i ledu rhannau o ffordd yr A5025 yng ngogledd Mon yn dechrau heddiw (dydd Iau, Awst 17).
Nod y cwmni ynni niwclear yw “lledu, ail-adeiladu ac ychwanegu haen o arwyneb newydd” i rannau o’r ffordd rhwng y Fali a safle eu gorsaf bŵer newydd arfaethedig, Wylfa Newydd, ger Cemaes.
Yn dilyn ymgynghoriad yn 2016, mae Horizon wedi cyflwyno newidiadau i’w cynlluniau gan gynnwys croesfannau i feicwyr a mwy o wrychoedd ar hydd y ffordd.
Bydd Horizon yn llunio fersiwn terfynol o’u cynlluniau ar ôl cyfres o ymgynghoriadau ac yn cyflwyno ceisiadau cynllunio i Gyngor Sir Ynys Môn yn nes ymlaen eleni.
Horizon a’r Gymraeg
Mae grŵp o ymgyrchwyr lleol dan yr enw PAWB (Pobl Atal Wylfa B), wedi lleisio pryderon am ddiogelwch yr orsaf arfaethedig a’u heffaith ar yr iaith Gymraeg.
Un o bryderon y grŵp yw gallai mewnlifiad miloedd o weithwyr i’r safle newydd arwain at leihau canran siaradwyr Cymraeg Ynys Môn.