Lesley Griffiths, Ysgrifennydd yr Amgylchedd
Mae cynlluniau i haneru gwastraff bwyd yng Nghymru wedi eu cyhoeddi heddiw gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl ffigurau diweddaraf, mi wnaeth gwastraff bwyd yng nghartrefi Cymru ostwng gan 12% rhwng 2009 a 2015, ac mae’r Llywodraeth yn gobeithio adeiladu ar hyn.
Mae’r Ysgrifennydd Amgylchedd, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn lansio ymgynghoriad ar darged i haneru gwastraff bwyd erbyn 2025.
Hefyd mae’r aelod cabinet wedi cwrdd ag Ysgrifennydd Amgylchedd yr Alban, Roseanna Cunningham, i rannu gwybodaeth ynglŷn â rheoli gwastraff ac adnoddau.
“Targed uchelgeisiol”
“Bydd yr ymgynghoriad rwy’n bwriadu ei lansio yn archwilio’r potensial i haneru gwastraff bwyd erbyn 2025,” meddai Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths.
“Targed uchelgeisiol yw e, ond yn sgil ein perfformiad ailgylchu dros y blynyddoedd diweddaf, dw i’n gwybod os byddwn ni’n cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol a chartrefi, y byddwn ni’n gallu cyflawni canlyniadau i syfrdanu’r byd.”