Bryn Fôn
Mae trefnydd gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi lleisio pryderon am atgyfodiad “agweddau gwrth-Bryn Fôn” yn y sîn gerddoriaeth yng Nghymru.
Mewn post ar wefan gymdeithasol Facebook, mae Rhys Llwyd yn nodi’n glir ei fod ar ochr “#teambryn” ac wedi ennyn tipyn o ymateb gan ffans yn ogystal â’r rhai sy’n feirniadol o’r cerddor a’r actor.
Mewn cyfweliad â golwg360, mae Rhys Llwyd yn dweud iddo gael ei ysgogi i bostio ei bryderon wedi iddo ddod ar draws cân gan y grŵp ifanc, Pasta Hull – ‘Geith Bryn Fon Fynd i Ffwcio’ – sydd wedi ei labelu yn ‘Anti Bryn Fôn Techno’.
Yn y gân, mae’r band yn cyfeirio at y cerddor fel “weirdo”.
Apêl Bryn Fôn
Mae Rhys Llwyd yn derbyn nad yw’r gân yn un hollol ddifrifol, ond yn ychwanegu y dylai cerddorion y sîn werthfawrogi Bryn Fôn am ddenu torfeydd a “sybsideiddio” nosweithiau llai poblogaidd yn ystod wythnos y brifwyl.
Oni bai i Bryn Fôn werthu cannoedd o docynnau, fyddai hi ddim yn bosib yn ariannol i roi cyfle i fandiau ifanc gael llwyfan, meddai.
“Fi’n siŵr mai hanner tynnu coes mae’r gân, ond eto mae rhai pobol yn y sîn yn nawddoglyd i Bryn Fôn, dw i’n teimlo, oherwydd efallai bod ei gerddoriaeth yn ganol y ffordd,” meddai Rhys Llwyd wrth golwg360.
“Ac ar ryw wedd mae fe… cerddoriaeth ganol y ffordd yw e.
“Ond, beth dyw pobol ddim yn sylweddoli yw bod torf fawr yn dod â Bryn Fôn, felly mae modd i drefnwyr ail-fuddsoddi’r incwm yna i gynnal nosweithiau amgen.
“Mae’r union bobol sydd yn beirniadu Bryn Fôn, efallai ddim yn gwerthfawrogi mai’r bwrlwm mae Bryn Fôn yn dod i gigs, sydd yn subsideiddio nosweithiau amgen sy’n llai poblogaidd.”
Dros y Gymraeg
Fe chwaraeodd Bryn Fôn a’i fand set ar lwyfan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Fferm Penrhos ar benwythnos cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol, nos Sadwrn, Awst 5, eleni.
Er yr holl feirniadu, meddai Rhys Llwyd, mae’n mynnu nad oes modd diystyru ei “safbwyntiau a safiad” dros yr iaith.
“Oedd e’n golygu lot i ni fel Cymdeithas yr Iaith, ei fod e’n fodlon gwneud gig i ni, achos mae e’n cefnogi ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith,” meddai. “Ac wrth wneud y gig i ni, mi oedd e’n llawn sylweddoli bod elw’r gig yn mynd i gynnal ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith.
“Oedd hynna’n bwysig i ni ac yn bwysig iddo fe. A falle bod e’n ganol y ffordd yn gerddorol ond yn wleidyddol mae e’n gwneud safbwyntiau a safiad ynglŷn â phethau pwysig ynglŷn â chymunedau Cymraeg.”
Y drafodaeth ar Facebook