Elis James (Llun: Richard Wood)
“Pensaer comedi Cymru” oedd Gethin Thomas, yn ôl y digrifwr Elis James, sydd wedi bod yn hel atgofion am y digrifwr a’r cynhyrchydd sydd wedi marw’n 49 oed.

Fe fu’r ddau yn cydweithio ar sioe ddiweddaraf Elis James sydd newydd ddechrau ar ei thaith o gwmpas Cymru.

Roedd y ddau yng nghwmni ei gilydd yng nghlwb Ffandango’s yn Llandaf, Caerdydd nos Iau yr wythnos ddiwethaf.

Mewn cyfweliad arbennig â golwg360, mae Elis James yn trafod gwaddol Gethin Thomas a’i ddylanwad ar ei yrfa ei hun ar hyd y blynyddoedd.