S4C
Mewn llythyr agored at Lywodraeth Prydain, mae 15 o wleidyddion Cymru wedi galw am ddatganoli darlledu i Gymru.
Daw hyn ar drothwy adolygiad sy’n cael ei gynnal am S4C ac, yn ôl pwyllgor diwylliant y Cynulliad, fe ddylai’r cwestiwn am ddatganoli darlledu “fod yn rhan o’r adolygiad” hwnnw.
Mae’r llythyr wedi’i gyfeirio at Karen Bradley, Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth Prydain, ac mae’n cynnwys llofnodion gwleidyddion o Blaid Cymru a Llafur.
‘Cefnogaeth gref’
Mae’r llythyr yn nodi bod “datganoli darlledu yn newid sy’n cael cefnogaeth gref ymysg y cyhoedd, gydag un arolwg barn diweddar yn dangos bod 65% o bobl Cymru yn cefnogi datganoli cyfrifoldebau i Senedd Cymru.”
Maen nhw’n ychwanegu eu bod yn “pryderu” at gwymp darpariaeth ITV Cymru, toriadau o 40% i gyllideb S4C ers 2010 yn ogystal â “chwymp darpariaeth leol a Chymraeg radio masnachol.”
“Ar y llaw arall, tra bod y BBC yn bwriadu buddsoddi £30 miliwn er mwyn sefydlu sianel deledu newydd i’r Alban, dyw’r buddsoddiad gan y BBC yng Nghymru ddim hyd yn oed yn dadwneud yn llawn y toriadau a wnaethpwyd dros y degawd diwethaf,” meddai’r llythyr.
‘Unig ateb go iawn’
Ymysg y gwleidyddion sydd wedi llofnodi’r llythyr mae – Eluned Morgan, Bethan Jenkins, Hywel Williams, Liz Saville-Roberts, Ben Lake, Jonathan Edwards, Simon Thomas, Steffan Lewis, Siân Gwenllïan, Llŷr Huws Gruffydd, Elin Jones, Rhun ap Iorwerth, Jeremy Miles a Leanne Wood. Yn ogystal mae Albert Owen, Aelod Seneddol Llafur Môn, wedi cefnogi’r ymgyrch.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith – “datganoli yw’r unig ateb go iawn i broblemau darlledu Cymru.”
“Mae sefyllfa ariannol darlledu Cymraeg a Chymreig yn hynod fregus; ac mae diffyg difrifol o ran darlledu yn Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol, sydd ar gael mewn rhai ardaloedd o Gymru,” meddai Carl Morris ar ran y gymdeithas.
“Mae hi hefyd yn amlwg bod gan Gymru ddiffyg democrataidd mawr, oherwydd bod y darlledwyr Prydeinig yn drysu pobl drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy’n effeithio ar Loegr yn unig.“