Carwyn Jones, (Llun: Y Blaid Lafur)
Mae’r Prif Weinidog yn lansio cronfa newydd heddiw gwerth £300,000 i annog prosiectau creadigol i hybu’r Gymraeg.
Mae’r arian yn rhan o gynllun y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae’n cael ei lansio ar faes y Brifwyl heddiw.
Yn ôl Carwyn Jones, mae’r gronfa’n agored i “sefydliadau o bob sector” ac mae modd i rai sy’n derbyn y grant eisoes geisio amdano.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi eu bod am ariannu prosiectau “arloesol, tymor byr gyda’r nod o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.”
Maen nhw’n cyfeirio at brosiectau cymunedol, yn y gweithle neu ar lwyfannau digidol gyda’r broses ymgeisio yn agor heddiw, Awst 7, ac yn cau ar Fedi 22.
‘Pwynt cychwynnol’
“Rydyn ni’n hollol glir mai ein cyfrifoldeb ni fel Llywodraeth yw gosod y trywydd a chynnig arweinyddiaeth wrth gynyddu’r defnydd o’r iaith,” meddai Carwyn Jones.
“Mae’r gronfa yn bwynt cychwynnol cryf ar gyfer ein strategaeth Awst 2050.”
Maen nhw’n gobeithio y bydd hyn hefyd yn cyfrannu at y targed o gynyddu canran y boblogaeth sy’n siarad yr iaith bob dydd, ac yn gallu siarad mwy na dim ond gair neu ddau o Gymraeg, o 10% (yn 2013-115) i 20% erbyn 2050.