Robin McBryde, Ceidwad y Cledd
Mae’n ddeng mlynedd eleni ers i’r hyfforddwr rygbi o Ynys Môn gael ei urddo i’r Orsedd a’i benodi’n Geidwad y Cledd gan olynu Ray Gravell.
Ac wrth nodi deng mlynedd ers colli’r gŵr o Fynydd-y-garreg, mae Robin McBryde yn talu teyrnged iddo fel un a lwyddai i bontio rhwng y byd rygbi a thraddodiadau’r Eisteddfod.
“Mi oedd hi’n fraint i gael bod yn ei gwmni a thrafod y swydd… mi oedd cael sêl bendith Grav yn golygu tipyn imi,” meddai Robin McBryde wrth golwg360.
Dywed fod “dyletswydd ac anrhydedd” yn perthyn i’r swydd o fod yn Geidwad y Cledd, ac olynu Ray Gravell.
“Mae’n siŵr fy mod i wedi cyrraedd oedran lle mae yna dipyn bach mwy o ddealltwriaeth ynglŷn â phwysigrwydd yr Eisteddfod, yr Orsedd a lle mae hwnna’n eistedd yn ein traddodiad a’n hanes ni fel Cymry,” meddai wedyn.
Ymweld â Môn
Dyma fydd y tro cyntaf i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld ag Ynys Môn ers i Robin McBryde gael ei urddo i’r Orsedd.
Er ei fod wedi’i eni ym Mangor, cafodd ei fagu yn Llanfechell ar yr ynys ond mae’n byw erbyn hyn yn y Tymbl yng Nghwm Gwendraeth.
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at “rannu’r ardal â gweddill Cymru” gan ychwanegu – “mae nifer o’r de sydd ddim wedi teithio i’r gogledd wastad yn fy synnu i.”
“Mae’r Eisteddfod yn ddathliad o’n Cymreictod ni, ond mae hefyd yn llwyddo i estyn allan a chroesawu’r di-Gymraeg wrth ymweld ag ardaloedd gwahanol a thrwy’r systemau cyfieithu…ac mae hynny’n hollbwysig,” meddai.