Carwyn Evans oedd un o'r beirniaid eleni
Yr artist o Gaerdydd, Cecile Johnson Soliz yw enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern.

Cafodd yr enillydd ei dewis gan yr artist Carwyn Evans a’r curaduron Ceri Jones a Jessica Hemmings, sydd hefyd wedi dewis yr Arddangosfa Agored a’r gwobrau celf amrywiol.

Mae hi’n ennill £5,000 am ei gwaith sy’n ymchwilio i bosibiliadau lluniadu tri dimensiwn.

Un o Galiffornia yw Cecile Johnson Soliz, a gafodd ei geni yn yr Almaen, ond mae hi wedi ymgartrefu yn y brifddinas ers rhai blynyddoedd.

Roedd hi’n arfer gweithio gyda chlai, ond mae hi bellach wedi troi ei sylw at bapur argraffu syml, siarcol a phaent.

‘Gwledd i’r llygad’

Yn ôl Carwyn Evans, mae’r gwaith buddugol yn “rhoi gwledd i’r llygad ar unwaith”, ac mae’n “ddramatig a chlai, glân, dilychwin, newydd”.

“Nid oes teimlad o hanes yn y gwaith ac nid ydym yn ymwybodol ym mha ofod amser yr ydym.

“Mae edrych yn hir am gyfnod yn annog ei ddatgeliad gan wneud ei adeiladwaith yn glir ac yn ein hatgoffa bod y gwrthrych celf yn bodoli o ganlyniad i weithredoedd a berfformiwyd ar ddeunyddiau – gwirionedd syml unrhyw waith celf.”

‘Cydlynus a hudol… a chwilfrydedd diatal’

Ychwanegodd Ceri Jones: “Mae’r cyfuniad o faint, proffil a pherthnasoldeb yn gydlynus a hudol.  Mae estheteg yn y gwaith hwn sydd, i mi, yn cyseinio â cherfluniau seramig Cecile ddegawd yn ôl. Ei hastudiaeth o ffurf a lleoli dyna ydyw, ei osgo tawel mewn gofod.”

Ategodd Jessica Hemmings: “Mae’r chwilfrydedd diatal y mae Cecile wedi’i ddwyn i ddeunyddiau mor sylfaenol – papur a phaent du – yn ein gwneud yn wylaidd.

“Mae’n gwneud i gymaint o’r anhrefn gweledol o’n cwmpas ymddangos fel tactegau tynnu sylw.

“Astudiwch rywbeth. Unrhyw beth. Mae gwybod o ddifrif sut y gellir profi a chwestiynu a phrofi eto rywbeth mor gyffredin yn atgoffa rhywun yn hyfryd nad oes dim yn ddiflas. Byth.”

Yr enillydd wedi’i swyno

Yn ôl Cecile Johnson Soliz, mae hi wedi ei swyno gan ddarlunio.

“Rwy’n tynnu lluniau gyda siarcol ar bapur ac yn creu lluniau mewn dull mwy corfforol a cherfluniol gyda phapur a deunyddiau eraill megis defnydd a gwifren. Rwy’n eu cyfuno a’u gosod ynghyd er mwyn creu perthynas, gyda’i gilydd, a gyda gofod yr arddangosfa

“Rwy’n sylwi ar weithrediadau a symudiadau sy’n rhan o fywyd bob dydd – clymu, rhwymo, gwasgu, rholio, gwthio, plygu, plethu… mae’r rhain i gyd yn tynnu sylw at brosesau cyffredin, syml, dyddiol sydd wrth law – sy’n ymwneud â chyffwrdd a ‘chreu pethau’.

“Mae gen i chwilfrydedd ynglŷn â’r agwedd gorfforol a chysyniadol sydd ynghlwm â chreu celf. Gall y ddwy elfen gydweithio mewn ffordd ryfeddol a hudolus.

“Mae’n gyffrous ystyried sut mae paentio, braslunio a cherflunio yn cydberthyn a sut y gallwn ni greu sgwrs rhwng gwrthrychau drwy’r modd y maent wedi’u gosod,  hongian, sefyll, pwyso, gwasgu wrth rannu gofod mewn arddangosfa..”

Mae gwaith papur 3D Cecile Johnson Soliz i’w weld mewn gofod wedi’i gynllunio’n arbennig yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Gendlaethol Ynys Môn 2017.

Mae mynediad i Y Lle Celf yn rhad ac am ddim gyda thocyn Maes i’r Eisteddfod.

Mae’r Lle Celf wedi’i drefnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.