Mae un o arwyddion ffordd mwyaf ardal y brifwyl eleni yn rhybuddio gyrwyr nad oes mynediad i’r Maes – ond mae wedi’i osod y tu allan i hen gartref un o gewri barddoniaeth Gymraeg.
Mae’r arwydd melyn wedi’i osod ar groesffordd yng nghanol pentref Trefor yn Sir Fôn, lle magwyd Syr John Morris-Jones, ac mae plac ar dalcen yr hen siop yn nodi hynny.
John Morris-Jones, athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Bangor ar ddechrau’r 20fed ganrif, ydi’r dyn sy’n dal y record am y nifer o weithiau y bu’n feirniad ar gystadleuaeth y Gadair Genedlaethol.
Am gyfnod, fe fu’n tafoli’r awdlau bob blwyddyn, ac fe fu hynny’n gyfrifol am ei wneud yn un o leisiau mwyaf dylanwadol y byd llenyddol.
Yn 1925, fe gyhoeddodd Cerdd Dafod, y gyfrol o reolau’r gynghanedd sy’n cael ei ystyried yn ‘feibl’ y beirdd. Bu farw JMJ yn y flwyddyn 1929.