Fydd awyrennau’r Llu Awyr ddim yn hedfan yn isel dros faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern yr wythnos hon – a hynny ar gais trefnwyr y brifwyl.

Gan fod y pentref ar lwybr arferol yr awyrennau milwrol sy’n codi ac yn disgyn o faes awyr Y Fali gerllaw, roedd yn rhaid gwneud cais atbennig iddyn nhw beidio ag amharu ar yr awyr uwchben prifwyl Môn.

“Roedd yna beth wmbrath ohonyn nhw’n fflïo dros ben yr wythnos dwytha,” meddai Prif Weirthredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, wrth golwg360 ar ddiwrnod llawn cyntaf yr eisteddfod.

“Ond fydd yna ddim un awyren yr wythnos yma, maen nhw wedi addo.”

Dydi’r awyrennau masnachol sy’n cario teithwyr rhwng Sir Fôn a Chaerdydd ddim yn pasio dros Fodedern, fel y mae awyrennau milwrol.