Mae mam o ogledd Cymru wedi ymddangos o flaen y llys wedi ei chyhuddo o wenwyno a llofruddio ei mab.

Cafodd Hannah Turtle, 21 oed, ei chyhuddo o lofruddio ei baban, James Hughes, a oedd tua saith wythnos oed pan fu farw ar Fehefin 13 y llynedd.

Mae’r fam, sy’n dod o Shotton, Sir y Fflint, hefyd yn wynebu tri chyhuddiad o esgeuluso a thrin ei mab yn wael, yn ogystal â dau gyhuddiad o wenwyno.

Mae’n debyg bod yr holl droseddau hyn wedi cael eu cyflawni rhwng mis Mai a Mehefin y llynedd.

Oherwydd ei bod yn yr ysbyty ar hyn o bryd, fe ymddangosodd Hannah Turtle o flaen y barnwr yn Llys y Goron yn Y Wyddgrug trwy gyfrwng linc fideo o Lys y Goron yng Nghaerdydd.

Nid oedd unrhyw gais am fechnïaeth, felly fe fydd yn cael ei chadw yn y ddalfa hyd nes y gwrandawiad nesaf ar Hydref 4.