Mi fydd yr ŵyl annibyniaeth gyntaf erioed i Gymru ei gweld, yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd fis nesaf.

Bwriad yr ŵyl undydd sy’n cael ei galw’n #IndyFest ac yn cael ei threfnu ar y cyd rhwng y grŵp ymgyrchu, Yes Caerdydd, a Diwrnod Cnafon Troednoeth, yw dathlu ysbryd gwrthryfelgar Cymru.

Hefyd y gobaith yw archwilio sut y gall y Cymry fod yn fwy annibynnol fel pobl, cymunedau a chenedl.

Meddiannu Stryd Womanby

Bydd yr ŵyl, sy’n digwydd ar ddydd Sadwrn, Medi 16, yn cael ei chynnal yn gyfan gwbl ar Stryd Womanby gyda The Moon and Castle Emorium yn gartref iddo yn ystod y dydd a Chlwb Ifor Bach ar gyfer gig y nos.

Yn ystod y dydd, fe fydd themâu sydd ynghlwm ag annibyniaeth yn cael eu trafod trwy amrywiaeth o gyfryngau fel barddoniaeth, cân, drama a chomedi ac ymhlith yr enwau amlwg a fydd yn cynnal sesiynau fydd y comedïwr Steffan Evans a’r awdures Catrin Dafydd.

Bydd bandiau The Barry Horns, Los Blancos ac ARGRPH yn perfformio yno hefyd.

Hanes y bobol gyffredin yn ganolbwynt

Yn ôl Huw Angle o Ddiwrnod y Cnafon Troednoeth ac un o brif drefnwyr yr ŵyl, cafodd ei ysbrydoli i ffurfio’r ŵyl y llynedd ar ôl gweld y daith Gadael Tir a oedd yn trafod, drwy gyfrwng cerddoriaeth, hanes ymdrech y bobol gyffredin i adeiladu’r cenedl “o’r gwaelod i fyny”.

“Y syniad”, meddai, “yw i wneud Medi’r 16eg yn ddathliad o’r bobl gyffredin hyn, yn ddathliad sydd wedi’i  ysbrydoli gan y bobl a elwir yn gnafon troednoeth a gefnogodd wrthryfel Glyndŵr.”

Mae Sandy Clubb, Cadeirydd Yes Caerdydd, wedyn, yn dweud ei bod yn “gyffrous iawn” am yr Ŵyl Annibyniaeth a’r ffaith bod yr un “[c]ynta’ erioed” yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd.

“Nid yn unig oes llu o artistiaid, bandiau a siaradwyr gwych ʼda ni, ond mae yna deimlad creadigol, chwareus i’r ŵyl sy’n ei gwneud yn lawer o hwyl i fod yn rhan ohoni.

Mae’n debyg y bydd ŵyl debyg o dan faner #IndyFest gan Yes Caernarfon yn cael ei gynnal ar yr un dydd, er nad oes gwybodaeth am y digwyddiad hwn ar gael eto.