Mae ymladdwyr tân wedi llwyddo i ddiffodd tân mewn bloc o fflatiau yn Dubai – yn un o’r tyrrau preswyl talaf yn y byd.
Yn ystod y nos, gwelwyd darnau mawr o weddillion y Torch Tower yn syrthio i’r llawr wrth i’r tân rwygo trwy fwy na 40 llawr o un ochr o’r tŵr.
Roedd preswylwyr i’w gweld yn llefain ar y stryd y tu allan am un o’r gloch y bore (amser Dubai) wrth i’r tân ledaenu, ond erbyn hanner awr wedi tri’r bore, cyhoeddodd gwasanaeth tân Dubai bod y fflamau dan reolaeth ac nad oedd unrhyw anafiadau.
Yr ail dân mewn dros ddwy flynedd
Dyma’r eildro mewn dwy flynedd a hanner i’r tŵr, sydd wedi ei leoli yn ardal y Marina ac sy’n 1,100 troedfedd (86 llawr) o uchder, fynd ar dân.
Mae’n un o nifer o dyrrau yn Dubai sydd wedi mynd ar dân dros y blynyddoedd hefyd, gyda’r un mwyaf ar Nos Galan yn 2016 lle rhwygodd fflamau trwy westy 63 llawr.
Rheolau diogelwch llymach
Yn ddiweddarach eleni, fe gyhoeddodd yr awdurdodau yn Dubai reolau diogelwch tân newydd a oedd yn galw am newid paneli a gorchuddion sy’n llosgi’n rhwydd mewn adeiladau.
Mae’r awdurdodau eisoes wedi cydnabod bod yna dros 30,000 o adeiladau ledled y wlad sy’n cynnwys deunyddiau sydd mewn peryg o losgi’n rhwydd.
Daw’r newyddion hyn yn sgîl tân Tŵr Grenfell yn Llundain lle lladdwyd o leiaf 80 o bobol ac a ysgogodd Llywodraeth Prydain i gynnal profion tân ar adeiladau’r wlad.