Bu farw’r Ysgolhaig David James Bowen yn 91 oed.
David James Bowen – neu ‘Dai Bow’ i nifer – oedd un o’r arbenigwyr pennaf ar Feirdd yr Uchelwyr, ac roedd yn cael ei adnabod yn un o haneswyr llenyddiaeth Gymraeg mwyaf yr 20fed ganrif.
Yn wreiddiol o Sir Benfro, bu David James Bowen yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Abergwaun, cyn parhau â’i addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Daeth yn aelod o’r Adran Gymraeg yn y brifysgol a bu’n ddarlithydd yn Aberystwyth am flynyddoedd maith.
Ysgrifennodd nifer fawr o erthyglau ar farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar a chyfnod y Tuduriaid, gan gynnwys gwaith Dafydd ap Gwilym a’i brif ddiddordeb Gruffudd Hiraethog.
Yn ôl y Darlithydd Bleddyn Huws – a ymunodd ag Adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn 1989 – roedd David James Bowen yn “ysgolhaig trylwyr” ac mi fydd ei waith yn para.
“Cawr o ysgolhaig”
“Wrth gwrs, roedd o’n gawr o ysgolhaig er mai dyn gwylaidd iawn oedd o,” meddai Bleddyn Huws wrth golwg360.
“Roedd gen i barchedig ofn ato fo, ond mi ddes i’n ffrindiau da iawn efo fo ar ôl i mi gyrraedd yma. Roedd o’n greadur bywiog ei feddwl, direidus iawn, iawn, yn hen lanc wrth gwrs ac yn genedlaetholwr pybyr.
“Roedd o’n ddyn disgybledig iawn. Yn weithiwr disgybledig. Ac yn medru bod yn eithaf llym gyda’i fyfyrwyr. Roedd yna un ddarlith am naw y bore Iau ac mi fyddai’n cloi’r drws o’r tu fewn am naw. Felly os oeddech chi’n hwyr, wel dyna hi, roeddech chi’n hwyr!
“Roedd o wedi ymroi i’w waith,” meddai Bleddyn Huws wedyn. “Roedd ganddo gof eithriadol ac roedd o’n medru cofio manylion, dyna beth oedd yn fy nharo i.
“Hefyd, roedd o’n ysgolhaig trylwyr yn ei faes. Bydd y gwaith a gyflawnodd fel ysgolhaig yn para.”