Mae pobol yng Nghymru yn gwylio hanner awr yn fwy o deledu bob dydd na gweddill cenhedloedd y Deyrnas Unedig, yn ôl ymchwil diweddar.
Yn ôl ymchwil gan y rheoleiddiwr darlledu, Ofcom, mae pobl yng Nghymru yn gwylio pedair awr o deledu bob dydd, o’i gymharu â 3 awr 32 munud ar gyfartaledd yng ngweddill gwledydd Prydain.
Mae’n debyg bod y nifer sydd yn gwylio’r teledu yn gostwng yn araf, ond mae ei boblogrwydd yn parhau i fod yn gryf yng Nghymru oherwydd oedran hŷn y gynulleidfa.
Yn ôl yr arolwg mae 91.6% o oedolion yng Nghymru yn gwrando ar y radio ffigur uwch nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig.
Hefyd mae’n debyg bod 84% o bobol yng Nghymru yn hoffi gwylio rhaglenni ar-alwad a bod dau draean yn gwneud er mwyn osgoi hysbysebion.
“Rhan annatod o fywyd”
“Mae pobol yng Nghymru yn manteisio ar dechnoleg teledu, ac yn mwynhau’r rhyddid i wylio beth bynnag a phryd bynnag yr hoffent,” meddai Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru, Rhodri Williams.
“I rai, mae hyn yn golygu mwynhau sawl pennod o gyfres deledu yn rheolaidd o gwmpas y tŷ neu wrth symud o le i le. Ond mae teledu byw yn dal i ddenu pobol ac mae’n rhan annatod o hyd o fywyd teulu, gyda theuluoedd yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i gyd-wylio rhaglenni neu ffilmiau.”