Fe fydd rhaglen arbennig am hanes Hedd Wyn, Bardd y Gadair Ddu, yn rhan o arlwy ITV Cymru yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf.

Bydd y cyflwynydd Carole Green yn ymweld â Pharc Penbedw, lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 1917 pan enillodd Ellis Humphrey Evans y Gadair. Cafodd y seremoni ei chynnal ar ôl i’r bardd buddugol golli ei fywyd ym mrwydr Passchendaele yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd y rhaglen yn ymweld â digwyddiadau i nodi canmlwyddiant ei farwolaeth.

Fe fydd dau o Gymry Cymraeg ITV Cymru Wales yn cyfrannu at y bwletinau newyddion a’r rhaglenni arbennig o’r maes.

Fe fydd Siôn Jenkins yn cyflwyno bwletinau newyddion gyda Carole Greene, tra bydd y gohebydd Jessica Main yn gohebu ac yn cyfarfod ag amryw o ymwelwyr, cystadleuwyr a threfnwyr drwy gydol yr wythnos.

Bydd rhaglenni o hanner awr yr un yn cael eu darlledu nos Lun, Awst 7 a nos Wener, Awst 11, gan ganolbwyntio ar y trefniadau ar gyfer y Brifwyl – o’r corau, dawnswyr a chystadleuwyr eraill i gystadlaethau celf a chrefft a digwyddiadau Maes B.

Bydd y rhaglenni hefyd yn dangos uchafbwyntiau’r prif seremonïau a chyfweliadau â’r rhai buddugol.