Bu farw’r peiriannydd a’r bardd a dreuliodd ran helaeth o’i fywyd yn ymchwilio i hanes tref Caernarfon.
Roedd T Meirion Hughes yn 89 mlwydd oed, ac wedi’i eni oddi fewn i waliau’r dref. Oherwydd hynny, roedd, yn ôl traddodiad, yn gallu galw’i hun yn ‘Gofi’ go iawn.
Ar hyd ei yrfa yn gweithio i gwmnïau olew fel Shell Mex a BP yn ardal Doc Fictoria yn y dref; fel teithiwr a gwerthwr; yn glerc yn ffatri Ferodo ac yn beiriannydd yn hen Goleg Technegol Bangor, fe fu hanes a iaith yn bwysig iawn i Meirion Hughes.
Roedd yn gystadleuydd brwd oedd wedi ennill cadeiriau a choronau mewn eisteddfodau lleol; ac fe ddaeth yn aelod o Orsedd y Beirdd pan fu’r brifwyl ar ymweliad â Chaernarfon yn 1959. Bryd hynny, ei weinidog, William Morris, oedd yr Archdderwydd.
Cyhoeddodd T Meirion Hughes nifer fawr o erthyglau am ei dref enedigol, yn ogystal â chyfrolau ar bynciau amrywiol fel y dienyddio oedd yn digwydd yn y Castell; epidemig cholera 1866; ynghyd â hanes y fferi a fu’n cludo teithwyr o Gaernarfon i Fôn am 700 mlynedd.
Bu farw Gorffennaf 25 yn ei gartref yn Stryd Garnon, Caernarfon.