Ellen ap Gwynn - dweud wrth y Prif Weithredwr newydd ei bod hi'n fraint gwasanaethu pobol Ceredigion. (LLun y Cyngor Sir
Mae’r gŵr fu’n ddirprwy Brif Weithredwr i Gyngor Sir Ceredigion bellach wedi’i benodi’n Brif Weithredwr – sef Eifion Evans o Lanwnnen ger Llanbedr Pont Steffan.
Bydd yn olynu Bronwen Morgan sydd wedi bod wrth y llyw am ddeng mlynedd ac yn ymddeol ddiwedd mis Medi.
Mae Eifion Evans wedi bod yn aelod o staff y Cyngor Sir am 21 mlynedd ac fe gafodd ei benodi i swydd arbennig Dirprwy Brif Weithredwr ddwy flynedd yn ôl.
Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr Addysg, prifathro ac athro o fewn y sir ac fe fu’n rhaid iddo wynebu sawl penderfyniad anodd wrth i nifer o ysgolion bach gael eu cau a’u cyfuno.
‘Braint arbennig’
Wrth ei longyfarch dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “mae gwasanaethu pobol Ceredigion yn fraint arbennig iawn.”
“Mae cyfleoedd a heriau yn wynebu ein sir a dw i’n edrych ymlaen at weithio’n agos gydag ein Prif Weithredwr newydd i sicrhau’r gorau i drigolion y sir.”
Mae disgwyl iddo gydio yn yr awenau ar Hydref 1.