Fe fydd rheolau newydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf yn galluogi dynion hoyw a deurywiol i roi gwaed ynghynt.
Ar hyn o bryd, does dim hawl gan ddynion sydd wedi cael rhyw gyda dynion eraill i roi gwaed am 12 mis.
Ond, o’r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd y cyfnod hwnnw’n lleihau i dri mis.
Yn ogystal, bydd gweithwyr rhyw yn cael rhoi gwaed ar ôl cyfnod o dri mis – ar hyn o bryd maen nhw wedi’u gwahardd yn llwyr rhag rhoi gwaed.
Ymysg y rheolau eraill, bydd pobol sy’n cael rhyw gyda phartneriaid risg uchel, a rhai sydd mewn ardaloedd lle mae HIV yn gyffredin, yn gorfod aros tri mis cyn rhoi gwaed yn hytrach na 12 mis.
‘Ateb y galw’
Mae’r newidiadau wedi’u hargymell gan adolygiad Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau.
Bwriad Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans, yw “sicrhau bod cynifer o bobol â phosib yn cael y cyfle i roi gwaed” er mwyn “ateb y galw”, meddai.
Dywedodd bod y newidiadau’n cael eu cyflwyno o ganlyniad i “ddealltwriaeth well” o sut mae heintiau’n cael eu trosglwyddo drwy waed.
“Bydd y newidiadau dw i’n eu cyhoeddi heddiw yn helpu i gadw rhoddwyr gwaed a’r cleifion sy’n derbyn eu gwaed yn ddiogel, gan sicrhau ar yr un pryd bod mwy o bobol yn cael y cyfle i roi gwaed,” meddai wedyn.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ystyried sut y gall y newidiadau gael eu cyflwyno ynghyd ag asesiadau risg ar gyfer achosion penodol.