Y dywysoges Diana gyda'i chymar, Dodi Fayed, ychydig cyn eu marwolaeth ddiwedd Awst 1997
Mae’r Cymro Cymraeg oedd yn gofalu am y teulu brenhinol adeg marw’r Dywysoges Diana, yn dweud nad oes ganddo unrhyw amheuaeth mai damwain achosodd ei marwolaeth ugain mlynedd yn ôl i’r mis hwn.
Mae David Seaborn Davies o Lanrug ger Caernarfon yn dweud wrth golwg360 bod y ddamwain car yn un o dwneli Paris ar Awst 31, 1997, yn “bownd o ddigwydd” unwaith i yrrwr y car Mercedes, Henri Paul, eistedd y tu ôl i’r olwyn ar ôl iddo fod yn yfed.
“Dw i reit hapus mae accident oedd o a bod yna ddim conspiracy gynno’ neb,” meddai’r cyn-blismon sy’n darlithio ar y pwnc ar longau pleser ledled y byd.
“Roedd yr accident am ddigwydd cyn i’r car – y Mercedes – fynd i mewn i’r tunnel achos roedd Henri Paul yn dreifio mor gyflym… roedd o wedi colli direction cyn mynd i mewn i’r tunnel so [os] oedd rhywun oedd yn dreifio ar 85 milltir yr awr, byddai rhywun wedi cael accident.
“… Y peth mwya’ oedd ei fod wedi yfed tair gwaith y limit yn Ffrainc a dwywaith yr alcohol limit yn ein gwlad ni ac wrth gwrs doedd neb yn gwisgo eu seatbelts,” meddai David Seaborn Davies wedyn. “Petaen nhw i gyd wedi bod yn gwisgo seatbelts, efallai y basan nhw’n fyw heddiw.
“Dw i wedi bod yn y gêm yma bron i hanner canrif rŵan fel investigator, a dw i wedi investigatio llofruddio dros y byd, dw i’n sicr yn fy marn i mai accident oedd o.”
“Rhyfeddod” y teulu brenhinol
Mae David Seaborn Davies yn cofio cael ei alw ar frys i’w waith wedi’r ddamwain, a hynny i ofalu am y teulu brenhinol yng Nghastell Balmoral yn yr Alban. Roedd yn bennaeth y Special Branch ar y pryd, ac yn gyfrifol am fesurau diogelwch y teulu ym mhob un o’u palasau.
O edrych yn ôl, mae’n dweud fod teimlad o “ryfeddod” ymhlith y teulu wrth weld y galar cyhoeddus oedd i’w deimlo ledled y byd.
“Doedd neb yn coelio reaction y crowds a’r bobol, yn y wlad yma a dros y byd, doedden ni ddim wedi disgwyl. Dw i ddim wedi gweld cymaint o out-pouring o grief,” meddai.
“Mae o wedi newid fel ydan ni fel society... pan oeddwn i’n tyfu i fyny fel dyn doeddech chi ddim yn crio, rŵan mae pobol yn crio dros bob dim!”